Pa help y gallaf ei gael gan y Coleg?
Mae gwneud y penderfyniad i fynd i’r coleg yn gam cyffrous, mawr ac mae gwybod beth i’w ddisgwyl yn bwysig i bobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr, yn enwedig os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol.
Os oes gennych angen dysgu ychwanegol (ADY) neu anabledd, bydd gennych gymorth i bontio o’r ysgol i’r coleg. Gall pawb ddechrau cynllunio ar gyfer y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch.
Bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eich ysgol (ADY) yn gwahodd pawb i’ch cyfarfodydd adolygu blynyddol yn yr ysgol. Gall hyn eich cynnwys chi,(y person ifanc) eich rhieni a’r tîm pontio o’r coleg ac unrhyw un arall a allai fod yn briodol gan gynnwys cynghorydd Gyrfa Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill. Yn yr adolygiad gallwch ddweud wrth bobl am eich anghenion cymorth pan fyddwch yn symud i’r coleg
Pan fydd y coleg yn ymwybodol o’ch cymorth dysgu ychwanegol, cewch eich gwahodd i fynd draw i siarad â nhw am eich anghenion cymorth penodol.
Sut y dylai colegau gefnogi myfyrwyr ag ADY
Yn y dyfodol agos, bydd yn ofynnol i golegau drefnu darpariaeth ddysgu ychwanegol lle mae ei hangen. Mae hyn yn golygu unrhyw gymorth sy’n wahanol neu’n ychwanegol i’r hyn a gynigir i bob myfyriwr. Bydd y Coleg yn ystyried anghenion dysgwyr, y cam datblygu a gofynion y cwrs y gwnaed cais amdano.
Bydd rhaid i golegau gydymffyrfio a Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 a ddilyn Cod ADY 2021:
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt:
- Cymorth i fyfyrwyr sydd ag ADY
- Rhaid iddynt hefyd ddilyn Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rhaid i golegau drefnu darpariaeth ddysgu ychwanegol lle mae ei hangen. Rhaid i bob Coleg wneud ei orau i ddarganfod a oes gennych anghenion dysgu ychwanegol a rhoi’r cymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i ddysgu.
Os oes gennych ADY, bydd coleg yn cyfrifo sut y gallant eich cefnogi. Byddant yn edrych ar y canlynol:
- pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch
- beth y gallant ei wneud i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Bydd eich ysgol neu goleg yn parhau i edrych ar y cymorth y maent yn ei roi i chi ac os yw’n ddigon i’ch helpu i ddysgu. Efallai y bydd angen gwahanol fathau o gymorth arnoch ar wahanol adegau. Yn y dyfodol agos, pan wneir darpariaeth ddysgu ychwanegol, gelwir hyn yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (ALP) a chaiff ei hamlinellu mewn cynllun datblygu unigol (CDU).
Gall y Coleg ddarparu cymorth gan y canlynol:
- tîm cefnogi myfyrwyr
- hyfforddwyr sgiliau,
- cymorth lles,
- cymorth grŵp bach,
- technoleg gynorthwyol,
- cymorth yn y dosbarth,
- cymorth cyfathrebu
- a chymorth dysgu penodol
Mae Colegau Cymru wedi lansio gwefan newydd werthfawr, wedi’i chreu i helpu pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i drosglwyddo’n llwyddiannus o’r ysgol i addysg bellach.
Adnodd cydweithredol yw Braenaru ADY, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd ac mewn partneriaeth â holl golegau addysg bellach Cymru, mae’r adnodd yn cefnogi dysgwyr ADY a’u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf.
Datblygu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) (Yn y dyfodol agos)
Mae’r CDU yn ddogfen gyfreithiol a fydd yn disgrifio eich anghenion dysgu ychwanegol, y cymorth sydd ei angen arnoch, a’r canlyniadau yr hoffech eu cyflawni. Mae’n “gynllun” oherwydd nid yn unig y mae’n disgrifio’r ADY, ond mae hefyd yn cynllunio’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i chi gefnogi eich dysgu.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd cynlluniau datblygu unigol yn disodli’r holl gynlluniau presennol gan gynnwys:
- Datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
- Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) ar gyfer dysgwyr a gefnogir ar hyn o bryd drwy Weithredu’r Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu’r Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.
- Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed)
Bwriedir i’r CDU fod yn ddogfen hyblyg. Bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn dibynnu ar wahanol anghenion y plentyn neu’r person ifanc. Bydd gan y coleg berson a enwir sy’n gyfrifol am ei gynllun ac am sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad llwyddiannus at y ddarpariaeth a ddisgrifir. Bydd y person hwn yn sicrhau bod y cymorth rydych yn ei dderbyn yn addas ar gyfer diwallu eich anghenion ac yn effeithiol wrth eich cefnogi yn eich dewis gwrs astudio.
Adolygu eich cefnogaeth a’ch CDU
Bydd eich CDU yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn a’i rannu gyda chi, tiwtoriaid eich cwrs ac aelodau eraill o staff sy’n bwysig i chi. Gallwch hefyd ofyn i’ch rhieni neu eiriolwr eich cefnogi os oes angen.
Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau ac atebion:
Sut bydd Coleg AB yn cefnogi'r broses o bontio fy merch o'r ysgol i AB?
Bydd Swyddogion Pontio o AB yn gweithio gyda myfyrwyr, rhieni/gofalwyr ac ysgolion i gynllunio ar gyfer y coleg, a byddant yn gweithio gyda myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau. Bydd y tîm yn gwneud y canlynol:
- Mynychu adolygiadau blynyddol ysgol ac adolygu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) neu Ddatganiad os ydynt yn ystyried gwneud cais i’r coleg
- Eich efnogi i wneud cais am gwrs a dewis y cwrs mwyaf priodol
- Trefnu ymweliadau personol â gweithgareddau coleg a phontio, gan gynnwys yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau ar ei chwrs
- Ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi neu’ch merch
- Diweddaru eich Cynllun Datblygu Unigol yn barod iddi ddechrau ei chwrs ac adolygu’r cynllun o leiaf bob blwyddyn
- Gweithio gyda’ch rhieni / gofalwyr, Gyrfa Cymru ac asiantaethau eraill i drefnu cynlluniau priodol, naill ai cynllun Dysgu a Sgiliau (CDLl) neu CDU.
- Cyfathrebu â thimau eraill ar draws y coleg i sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw’r ffordd orau o gefnogi eich merch i gyflawni eu dyheadau a’u canlyniadau
- Cyfarfod â’ch merch yn rheolaidd, os oes angen, i wirio sut mae hi’n ymgartrefu’n dda yn y coleg ac yn gwneud cynnydd
- Darparu hyfforddiant teithio os oes angen er mwyn gwella ei sgiliau a’i hyder i deithio’n annibynnol i’r Coleg.
Dyma rai cwestiynau y gallai eich merch fod am eu gofyn i’ch ysgol neu goleg:
- Pa gymorth y mae’r ysgol neu’r coleg yn ei gynnig i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau fel fi?
- Pa fath o bethau sydd angen help arnaf?
- Pa gymorth y gallaf ei gael i’m helpu?
- Pa benderfyniadau y gallaf eu gwneud am fy nghefnogaeth?
- Gyda phwy ydw i’n siarad os oes angen mwy o gefnogaeth arnaf?
Beth sy'n digwydd cyn i fy mab ddechrau yn y coleg?
Bydd y coleg yn gweithio’n agos gyda phawb sy’n ymwneud â gofal a dysgu’r myfyrwyr i sicrhau bod y cyfnod pontio o’r ysgol i’r coleg yn rhedeg yn esmwyth. Gallant gefnogi pobl ifanc gyda’r canlynol:
Gwahoddiad i fynychu diwrnod blasu coleg neu ymweliad wedi’i drefnu dros wyliau’r haf os oes angen
- Trafodaethau gyda’n tîm cymorth i fyfyrwyr am bethau fel, opsiynau gyrfa, teithio i’r coleg a chynlluniau pontio
- Gwahoddiad i ‘fore coffi’ i gael gwybod am y coleg, cwrdd â staff a gofyn cwestiynau
- Mynediad i lawer o deithiau rhithwir defnyddiol a fideos ar wefan ein coleg
- Cymorth i lenwi’r ffurflen gais a gwneud cais i’r coleg
- Help gyda chyllid ac arian
- Cymorth yn ystod diwrnodau sefydlu i helpu i ymgartrefu mewn
- Bydd person dynodedig yn bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw bryderon.
- Bydd y tîm cymorth i fyfyrwyr yn gweithio gyda darlithwyr a staff i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’ch anghenion cymorth cyn ac yn eu deall cyn ac yn y coleg. Bydd eich CDU yn cael ei rannu gyda’ch holl diwtoriaid.
Pryd y bydd y system ADY newydd yn berthnasol i'm mhlentyn sy'n symud i addysg bellach?
Bydd gweithredu’r Ddeddf ar gyfer pobl ifanc ôl-16 yn galw am system sianelu, lle bydd y rheini sydd ym mlwyddyn 10 neu’n iau ar hyn o bryd, sy’n cael eu symud i’r system ADY gan eu hysgol neu eu hawdurdod lleol yn ystod y cyfnod gweithredu, yn cael eu sianelu’n naturiol i addysg bellach â chynllun datblygu unigol (CDU) eisoes yn ei le . Bydd unrhyw berson ifanc nad yw eto’n rhan o’r system ADY ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2024/25 yn symud draw i’r system bryd hynny.
Mae’r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu sut bydd y system ADY yn gweithio yn y tymor hir.
Bydd sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol yn dechrau mynd ati i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifanc mewn ffordd raddol, ofalus, gan sicrhau eu bod yn gwbl barod i ymgymryd â’u dyletswyddau, a bod y broses o lunio’r cynlluniau yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Hyd nes y bydd y Ddeddf ADY yn berthnasol i berson ifanc, bydd Deddf Addysg 1996 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn parhau i fod yn weithredol, a bydd yn dal i dderbyn y gefnogaeth sydd ar gael drwy’r system Anghenion Addysgol Arbennig ar y naill law, a’r system Anawsterau ac Anableddau Dysgu ar y llall.
Mae gan fy mab ddatganiad AAA ac mae'n trosglwyddo i goleg AB fis Medi nesaf (2022) A fydd angen i ni ofyn am Gynllun Dysgu a Sgiliau o hyd?
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud eto pryd, yn ystod y tair blynedd nesaf, y bydd y system ADY newydd yn berthnasol i ddysgwyr ym Mlwyddyn 11, chweched dosbarth neu golegau addysg bellach. Mae’n bwriadu cyhoeddi amserlen yn 2022 ar gyfer trosglwyddo plant a phobl ifanc i’r system newydd nad ydynt yn symud yn 2021/22.
Os oes gan berson ifanc ddatganiad AAA ac yn symud i AB ym mis Medi 2022, dylent fod yn gofyn am Gynllun Dysgu a Sgiliau. Nid oes cadarnhad gan Lywodraeth Cymru hyd yma y bydd Gyrfa Cymru yn parhau â’u rôl ar gyfer ymgeiswyr yn 2022, ond disgwyliwn i hyn ddigwydd.
Mae llawer o golegau’n gweithio gyda’u hysgolion lleol a’u ALlau dros y flwyddyn academaidd nesaf i ‘dreialu’ nifer cyfyngedig o IDPs anstatudol. Er na fydd gan y rhain unrhyw statws cyfreithiol eto mewn addysg ôl-orfodol, byddant yn dal i helpu i sicrhau bod dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddefnyddio gyda phobl ifanc. Fodd bynnag, mae hon yn wirfoddol ac nid yn ddogfen gyfreithiol.
Mae gwelliannau mewn trefniadau pontio ac wrth rannu gwybodaeth rhwng ysgolion a cholegau yn cael eu datblygu ledled Cymru, ond os oes angen gwybodaeth a chyngor annibynnol arnoch gallwch gysylltu â SNAP Cymru a gwneud apwyntiad i siarad ag un o’n cynghorwyr.
A all person ifanc ag ADY 19-25 oed gofrestru gyda darparwr addysg bellach.
Gall unrhyw berson (p’un a oes ganddynt ADY ai peidio) wneud cais i fynychu coleg AB ar unrhyw oedran. Os oes gan y coleg gwrs addas y mae gan y person ifanc y gofynion mynediad angenrheidiol ar ei gyfer a’r potensial i’w gyflawni, yna mae’n debygol y cynigir lle iddo. Mae’n bwysig nodi yma bod pob coleg yn cynnig ystod eang o gymorth i ddysgwyr. Darperir canllaw defnyddiol i’r hyn y gallai person ifanc ei ddisgwyl o fewn yr ALN Pathfinder. Os oes gan y person ifanc ADY, dylai fod CDU wedi’i ddatblygu ar eu cyfer yn y dyfodol, tan hynny dylid gofyn am gynllun dysgu a sgiliau.
Mae gan fy merch Ddatganiad tra mewn addysg orfodol, ond dim ond blwyddyn o AB a fynychodd. A fydd hi'n gallu ailgofrestru gyda choleg a chael cymorth ar gyfer ei ADY?
Cyn belled â bod gan y coleg gwrs addas y mae gan y person ifanc y gofynion mynediad a’r potensial i’w gyflawni ar ei gyfer, byddant fel arfer yn cael cynnig lle ar y cwrs. Mae’n ofynnol i golegau ‘gofrestru gydag uniondeb’ felly ni fyddant fel arfer yn cynnig lle ar gwrs oni bai bod diben clir i’r person ifanc. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai hyn naill ai’n galluogi cyflawni cymwysterau academaidd ar gyfer mynediad i addysg uwch yn y pen draw, neu i baratoi rhywun ar gyfer gwaith. Mae’r rhan fwyaf o golegau hefyd yn cynnig rhaglenni sgiliau bywyd ar wahân sy’n canolbwyntio ar ‘Bedair Colofn’ Cymuned, Byw’n Annibynnol, Iechyd a Lles a chyflogaeth. Mae’r rhain fel arfer yn rhedeg am hyd at ddwy flynedd.
Dylech ofyn am gyfarfod ag adran ADY y coleg i drafod anghenion eich merched ac argaeledd cymorth dysgu.
Beth os nad ydw i'n (fel person ifanc) cydsynio i gael cymorth?
O dan Ddeddf ADY 2018, bydd plentyn yn dod yn berson ifanc unwaith y byddant yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol (h.y. dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn y mae’r plentyn yn troi’n 16 oed).
Mae’r gyfraith hon yn dweud y bydd hawliau rhieni mewn perthynas ag addysg y person ifanc yn trosglwyddo’n awtomatig i’r person ifanc eu hunain ar ôl iddynt gyrraedd 16 oed. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a cholegau ymgysylltu’n uniongyrchol â’r person ifanc yn hytrach na’u rhieni fel arfer.
Fodd bynnag, byddai rhieni a gofalwyr fel arfer yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau.
Fodd bynnag, y person ifanc sy’n gyfrifol am y penderfyniad terfynol ynghylch cydsynio i gael CDU wedi’i baratoi a’i gynnal.
Os yw’r coleg neu’r ALl wedi gofyn am eich caniatâd, ac nad ydych yn cydsynio, yna bydd y gofyniad ar y Coleg neu’r Awdurdod Lleol i benderfynu a oes gan berson ifanc ADY ac i ddatblygu CDU yn peidio â bod yn gymwys bryd hynny.
Pryd nad oes gan berson y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau ADY?
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn dweud bod plant a phobl ifanc nad oes ganddynt y gallu i ddeall:
- gwybodaeth neu ddogfennau y mae’n rhaid eu rhoi iddynt mewn perthynas â’u ADY; neu
- beth mae’n ei olygu i ddefnyddio’r hawliau a ddarperir iddynt o dan y system ADY
nad oes ganddynt gapasiti at ddibenion y Ddeddf.
Mae i’r diffiniad ar gyfer pobl ifanc, a rhieni plant sy’n ‘brin o allu’ yn y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yr un ystyr â ‘diffyg capasiti’ yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae’n golygu person nad oes ganddo’r gallu i wneud penderfyniad penodol neu gymryd camau penodol drostynt eu hunain ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad neu’r camau gweithredu.
Nid oes gan berson y gallu i wneud penderfyniad penodol os na all:
(a) deall yr wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad,
(b) cadw’r wybodaeth honno,
(c) defnyddio neu bwyso a mesur yr wybodaeth honno fel rhan o’r broses o wneud y penderfyniad, neu
(d) cyfleu eu penderfyniad (boed hynny drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion neu unrhyw ddull arall).
Mae’r asesiad o gapasiti yn benodol i benderfyniadau: gall rhywun nad oes ganddo alluedd i wneud penderfyniad mewn un maes o’u bywyd fod â chapasiti mewn agwedd arall ar eu bywyd. Os nad oes gan berson ifanc y gallu i wneud penderfyniad perthnasol, y rhiant neu’r gofalwr yn gyffredinol fydd y sawl sy’n gwneud y penderfyniad neu gellir darparu eiriolwr Annibynnol.
Mae gan Dribiwnlys Addysg Cymru daflenni a gwybodaeth bellach am gapasiti gwelwch> Galluedd | Education Tribunal (llyw.cymru)
Beth os ydw i am fynychu Coleg Arbenigol?
Yng Nghymru, mae’r gyfraith berthnasol wedi’i nodi ar hyn o bryd yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (LSA 2000). Bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys y grŵp hwn o ddysgwyr yng nghyfrifoldebau Deddf ADY.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth ôl-16 arbenigol i bobl ifanc nad oes modd cyflawni eu hanghenion addysg a hyfforddiant drwy ddarpariaeth y brif ffrwd, o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Fel rhan o’r Ddeddf ADY, bydd y cyfrifoldeb hwn yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Bydd hyn yn digwydd yn raddol, a bydd awdurdodau lleol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y sawl sydd wedi’u symud i’r system ADY o 2022/23 (sydd ym mlwyddyn 10 neu’n iau ar hyn o bryd).
Mae’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, adrannau 31 a 32, yn dweud bod yn rhaid i Weinidog Cymru sicrhau bod pobl ifanc 16-25 oed yn cael y canlynol:
- Addysg addas (ac eithrio addysg uwch).
- Hyfforddiant addas.
- Galwedigaeth amser hamdden wedi’i threfnu sy’n gysylltiedig ag addysg.
- Galwedigaeth amser hamdden wedi’i threfnu sy’n gysylltiedig â hyfforddiant.
Mae’r ddyletswydd gyffredinol hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu “darpariaeth briodol” ar gyfer addysg a hyfforddiant dysgwyr 16-19 oed, a “chyfleusterau rhesymol” i’r rhai dros 19 oed ond o dan 25 oed.
Os oes gan y person ifanc anhawster dysgu mae gofynion ychwanegol yn berthnasol. Mae Adran 41 LSA 2000 yn dweud, wrth wneud darpariaeth addysg a hyfforddiant addas i bobl ifanc ag anawsterau dysgu, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried:
- anghenion y person ifanc; a
- cynnwys unrhyw asesiad a gynhelir gan Gyrfa Cymru.
Ar gyfer pobl ifanc sydd â datganiad o anghenion addysg arbennig (datganiad AAA), dylai’r broses gynllunio fod wedi dechrau yn Adolygiad Blynyddol Blwyddyn 9 (pan oedd y person ifanc yn 13/14 oed).
Ym mlwyddyn olaf yr ysgol, rhaid i unrhyw berson ifanc sydd â datganiad AAA gael asesiad anhawster dysgu. Cynhelir yr asesiad gan Gyrfa Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru.
Cyfeirir at yr asesiad weithiau fel ‘asesiad adran 140’ (fel y’i cynhelir o dan adran 140 LSA 2000) neu ‘gynllun dysgu a sgiliau’. Efallai y byddwch hefyd yn ei glywed y cyfeirir ato fel ‘symud ymlaen asesu’.
Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am sicrhau lleoedd i unigolion ag anawsterau dysgu a/neu anableddau mewn darpariaeth ôl-16 arbenigol yn unol â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf Dysgu a Sgiliau.
Mae’r dyletswyddau hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidog Cymru ystyried a ddylent ariannu lleoliad dysgwr ag anawsterau dysgu mewn sefydliad addysg bellach arbenigol, a darparu cyllid (lle bo hynny’n angenrheidiol).
Mae’r Cynllun Dysgu a Sgiliau yn nodi anghenion addysg a hyfforddiant y person ifanc a’r ddarpariaeth addas sydd ar gael i ddiwallu’r anghenion hynny.
Bydd addasrwydd yr holl opsiynau lleol sydd ar gael yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses hon. Pan nodir bod coleg AB yn gallu darparu darpariaeth addas ar gyfer y dysgwr, defnyddir y Cynllun Dysgu a Sgiliau gan y Coleg AB hwnnw wrth nodi a sicrhau cymorth dysgu priodol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc ag anawsterau dysgu yn gallu cael mynediad i’w Coleg AB lleol, ond bydd angen darpariaeth arbenigol ar nifer fach o ddysgwyr na ellir ond eu darparu mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.
Os ceir tystiolaeth, fel rhan o’r broses bontio, fod darpariaeth ôl-16 arbenigol yn hanfodol i berson ifanc i’w galluogi i gael mynediad at AB, yna bydd Gyrfa Cymru, gyda’r dysgwr a’i deulu, yn casglu’r dystiolaeth ac yn paratoi cais am gyllid i sicrhau’r ddarpariaeth honno.
Cyflwynir ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn lle mae lleoliadau’n cynnig dechrau ym mis Medi.
Er mwyn sicrhau’r cyllid ar gyfer lleoliad arbenigol, rhaid i’r cais ddangos bod pob opsiwn coleg lleol wedi’i ystyried yn llawn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau a chyllido lleoliadau ôl-16 arbenigol i’r bobl ifanc hynny nad ydynt eto wedi’u symud i’r system ADY (sydd ym mlwyddyn 11 neu’n hŷn ar hyn o bryd).
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu sicrwydd i bobl ifanc sydd mewn darpariaeth arbenigol, bydd unrhyw gyllid ar gyfer lleoliadau a gytunir gan Weinidogion Cymru cyn diwedd blwyddyn ysgol 2024-25 yn dal i fod ar gael i bobl ifanc hyd nes iddynt gwblhau’r rhaglen astudio a gytunwyd.
Os bydd dysgwr 19-25 oed yn cyrraedd coleg ac yn seiliedig ar asesiad y coleg, neu os yw'n 'dwyn i'w sylw' bod gan y dysgwr ADY, a fydd gan y coleg 'ddyletswydd i benderfynu' ar ADY y person ifanc a pharatoi CDU os oes angen?
Os nad yw person ifanc eisoes wedi cofrestru mewn coleg, bydd angen i’r Cydlynydd ADY benderfynu a yw’n ‘rhesymol’ i’r coleg asesu a/neu ddiwallu eu hanghenion darpariaeth dysgu ychwanegol.
Gall y coleg benderfynu cyfeirio’r dysgwr at yr ALl a gofyn iddynt wneud y trefniadau angenrheidiol i sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu. Efallai na fydd hyn yn digwydd yn aml iawn gan fod gan y rhan fwyaf o golegau lawer o brofiad o gefnogi pobl ifanc. Fodd bynnag, yn y dyfodol mewn achosion isel, lle mae angen lefel uchel o gymorth, gall coleg benderfynu cyfeirio penderfyniad CDU at yr ALl.
Mae’r Cod ADY yn ei gwneud yn glir y dylid rhoi cymorth priodol ar waith ar gyfer dysgwr tra bod CDU yn cael ei baratoi. Mae gan golegau ddyletswydd eisoes o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu gwneud cynnydd yn eu haddysg a’u hyfforddiant.
Mae'r ddeddfwriaeth ADY yn dweud y gall y coleg gyfeirio person ifanc at yr awdurdod lleol i ddatblygu a chynnal y CDU – pryd fydd hyn yn digwydd?
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto pryd y bydd y ddyletswydd hon yn trosglwyddo i ALlau neu pryd y caiff yr arian ei ddirprwyo iddynt, ond y bwriad yw y bydd y cyfrifoldeb dros wneud y penderfyniad hwn yn cael ei drosglwyddo o Weinidog Cymru i’r ALlau ar gyfer nifer fach o bobl ifanc sydd ag ADY mwy cymhleth.
Y cynharaf y mae hyn yn debygol o ddigwydd fyddai i ddysgwyr sy’n dechrau ar ddarpariaeth ôl-16 ym misMedi 2023. Os felly, bydd angen i ALlau fod yn gweithio gyda phlant/pobl ifanc blwyddyn 11/12/13 a’u rhieni yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23.
Beth am gludiant i'r coleg?
Mae’r rheolau ynghylch darparu cludiant am ddim neu gymorthdaledig i ysgolion a cholegau yng Nghymru wedi’u nodi ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Nid oes dyletswydd statudol ar awdurdod lleol i ddarparu cludiant am ddim i berson ifanc sydd ag anhawster dysgu mewn addysg bellach neu hyfforddiant ôl-16. Fodd bynnag, mae adran 2(4) o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio pob dysgwr yn eu hardaloedd, hyd at 19 oed, gan roi sylw penodol i “anghenion dysgwyr ag anawsterau dysgu”.
Mae hyn yn golygu bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn ynghylch a ydynt yn darparu cludiant i ddysgwyr 16-19 oed, felly bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael gwybod beth yw eu polisi. Os yw dysgwr yn anabl bydd angen i’r coleg a’r ALl ystyried hyn.