Cynllun Datblygu Unigol (CDU)
Beth yw Cynllun Datblygu Unigol (CDU)?
Bydd gan blant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Gynllun Datblygu Unigol (CDU).
Dogfen gyfreithiol yw’r CDU sy’n disgrifio anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni.
Mae’n “gynllun” oherwydd ei fod nid yn unig yn disgrifio’r ADY, ond mae hefyd yn cynllunio’r camau y mae’n rhaid eu cymryd ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc. Mae hefyd yn darparu cofnod er mwyn gallu monitro ac adolygu cynnydd plentyn neu berson ifanc.
Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd cynlluniau datblygu unigol (CDU) yn disodli’r holl gynlluniau presennol gan gynnwys:
- Datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
- Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) ar gyfer dysgwyr a gefnogir ar hyn o bryd drwy Weithredu’r Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu’r Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.
- Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed)
Bwriad y CDU yw bod yn ddogfen hyblyg. Bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn dibynnu ar anghenion gwahanol y plentyn neu’r person ifanc.
Bydd y CDU yn cael ei adolygu bob 12 mis a bydd yn newid yn ôl anghenion newidiol y plentyn neu’r person ifanc.
Adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Mae’n bwysig iawn bod POB plentyn a pherson ifanc yn mwynhau llwyddiant, yn cyflawni ac yn gwneud cynnydd da wrth ddysgu.
Mae lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, ysgolion a cholegau yn defnyddio’r wybodaeth sydd ganddyn nhw am bob plentyn neu berson ifanc sydd wedi’u nodi ag ADY, i gynllunio’r cymorth mwyaf priodol posib i ddiwallu eu hanghenion.
Bydd ysgolion a cholegau yn adolygu’n barhaus pa mor dda y mae pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn datblygu, ac yn newid y cymorth sydd ei angen yn unol â hynny. Weithiau bydd hyn yn cael ei rannu mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb â rhieni neu weithiau’n fwy anffurfiol.
RHAID i Gynllun Datblygu Unigol gael ei adolygu bob 12 mis. Serch hynny, gall ysgol, coleg neu awdurdod lleol adolygu cynllun unrhyw bryd a diwygio cynllun yn dilyn yr adolygiad.
Mae CDU plentyn neu berson ifanc yn ddogfen hyblyg y dylid ei hadolygu a’i newid wrth i anghenion plentyn neu berson ifanc ddatblygu a newid dros amser. Er enghraifft, efallai y cafwyd newid sydyn neu annisgwyl mewn amgylchiadau (gallai bod anghenion plentyn neu berson ifanc wedi troi’n fwy difrifol o lawer neu efallai na fydd y math o gefnogaeth a ddarperir yn effeithiol).
Os yw ADY y plentyn neu’r person ifanc yn newid, dylai’r CDU gael ei ddiweddaru neu ei adolygu.
RHAID i Gynllun Datblygu Unigol gael ei adolygu hefyd:
- ar gais y plentyn neu riant plentyn, neu berson ifanc
- ar gais corff GIG sy’n ofynnol i sicrhau darpariaeth
Os caiff CDU ei ddiwygio, RHAID i gopi o’r cynllun diwygiedig gael ei roi i’r plentyn a’r rhiant, neu’r person ifanc.
Yn dilyn cais, gall ysgol neu goleg benderfynu peidio ag adolygu’r CDU oherwydd eu bod yn credu na fu unrhyw newidiadau go iawn ers y tro diwethaf i’r CDU gael ei adolygu a’u bod o’r farn bod adolygiad yn ddiangen. Dylai’r plentyn, y rhiant, neu’r person ifanc gael gwybod am y penderfyniad a’r rhesymau drosto (A.23 (10))
Byddai polisi cyffredinol i beidio â diweddaru CDU ar wahân i adegau penodol yn anghyfreithlon.
Mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol y pŵer i ddiweddaru cynllun unrhyw bryd, a dylai wneud hynny pan fydd y dystiolaeth yn awgrymu bod anghenion plentyn neu berson ifanc wedi newid. Os yw ysgol, sefydliad Addysg Bellach, neu ALl yn cynnal adolygiad yn dilyn cais gan riant, RHAID iddo gwblhau’r adolygiad gan gynnwys rhoi copi o’r CDU diwygiedig i’r rhiant neu hysbysiad o benderfyniad gwahanol yn fuan neu o fewn 35 diwrnod (ysgolion) 7 wythnos ALl
Gall plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i beidio â diwygio CDU i’r Tribiwnlys Addysg
(Mae Pennod 25 o’r Cod ADY, Adran 23 a 24 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn rhoi gwybodaeth ar adolygu CDU.)
Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau ac atebion:
Pwy fydd yn gyfrifol am y CDU?
Bydd y rhan fwyaf o Gynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu cynnal gan ysgolion a cholegau.
Lle bo ysgol neu goleg wedi paratoi CDU ar gyfer plentyn, mae’n rhaid iddo gynnal y CDU hwnnw. Mae’r gair ‘cynnal’ yn golygu bod yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun yn cael ei darparu a’i hadolygu ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.
Mae ALl yn dibynnu ar ysgolion a cholegau i wneud y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc a bydd yn rhoi cyllid i’r ysgol i’w galluogi i wneud hyn.
Serch hynny, i rai plant a phobl ifanc, y rhai ag anghenion mwy cymhleth neu anghenion llai cyffredin, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal y CDU.
Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn gyfrifol am Gynlluniau Datblygu Unigol y canlynol:
- plant o dan 5 oed gydag ADY (ddim mewn ysgol a gynhelir)
- y rheini sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad, Addysg Heblaw yn yr Ysgol
- Plant sy’n derbyn gofal
- plant a phobl ifanc ‘a gedwir yn gaeth’
Bydd colegau prif ffrwd yn gyfrifol am Gynlluniau Datblygu Unigol eu myfyrwyr.
Cynnwys y CDU
Bydd y cynllun datblygu unigol yn gludadwy rhwng ALlau ac yn hawdd ei ddeall ac yn dryloyw. RHAID i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ddefnyddio’r ffurflen safonol yn Atodiad A o’r Cod ADY wrth baratoi neu gynnal CDU i blentyn neu berson ifanc.
Er bod adrannau safonol yn y CDU, efallai y byddan nhw’n edrych yn wahanol mewn gwahanol awdurdodau lleol neu ysgolion.
Bydd y CDU yn cynnwys:
- gwybodaeth fywgraffyddol a manylion cyswllt
- disgrifiad clir a chynhwysfawr o’r plentyn neu’r person ifanc
- disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol – wedi’i nodi a’i feintioli. h.y. faint a pha mor aml a phwy sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth – yr hyn y mae angen i’r plentyn neu’r person ifanc allu ei ddysgu
- beth fydd yn cael ei wneud fel eu bod yn cael eu cefnogi’n iawn yn yr ysgol neu’r coleg
- a oes angen ADY yn Gymraeg ar y plentyn neu’r person ifanc
- unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol i’w darparu gan y gwasanaethau iechyd
- canlyniadau diriaethol clir
- enw’r lleoliad /ysgol neu goleg (lleoliad)
- manylion pontio a theithio
- dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni’r plentyn neu’r person ifanc
- cofnod o’r trafodaethau, cyngor a thystiolaeth
- pwy sy’n gyfrifol am gynnal y CDU
Mae 10 adran benodol o’r CDU y gellir apelio i’r Tribiwnlys Addysg. Bydd y rhain yn cael eu marcio mewn coch yn y ‘Cod’ er mwyn ei gwneud yn glir i’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc, pa adrannau sydd â ‘hawliau’ apêl ynghlwm wrthyn nhw:
(a) 2 ;
(b) 2B.2;
(c) 2B.3
(d) 2B.5
(e) 2B.6
(f) 2C.2
(g) 2C.3
(h) 2C.5
(i) 2C.6
(j) 2D
Pwy sy’n gallu gwneud cais am Gynllun Datblygu Unigol?
Gall rhiant, gweithiwr proffesiynol neu’r dysgwr ei hun wneud cais am Gynllun Datblygu Unigol:
- gall plentyn o dan oedran ysgol gorfodol ‘ddod i sylw’ yr ALl gan rieni neu weithiwr proffesiynol – h.y. y cais yn cael ei wneud i’r awdurdod lleol
- i blant oedran ysgol, gwneir y cais i’r ysgol yn gyntaf. Gellir trosglwyddo’r cais hwn i’r awdurdod lleol i’w ailystyried neu i gymryd cyfrifoldeb
- i fyfyrwyr coleg, gwneir y cais i’r coleg – oni gofynnir am leoliad coleg arbenigol, ac os felly gwneir cais i’r awdurdod lleol
Pwy fydd yn paratoi’r CDU?
Os yw’r ysgol neu’r coleg yn ‘penderfynu’ bod gan y plentyn ADY, rhaid iddo baratoi CDU ar gyfer y plentyn ‘heb oedi’ ac o fewn 35 diwrnod ysgol oni bai bod unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- bod yr ysgol neu’r coleg o’r farn bod gan y plentyn ADY – gall hynny alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol iddyn nhw ei sicrhau
h.y. os oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion cymhleth na ellir eu diwallu oni bai bod yr ALl yn sicrhau darpariaeth h.y. bwyd a llety; arbenigedd (o bosibl oherwydd cost neu gymhlethdod)
- na all yr ysgol benderfynu’n ddigonol ar raddfa neu natur anghenion y plentyn neu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol benodol sydd ei hangen
Yn y naill achos bydd yr ysgol yn gofyn i’r awdurdod lleol benderfynu
(gweler paragraffau 12.36 – 12.46 Cod ADY)
Os yw ALl yn cynnal CDU ar gyfer plentyn neu berson ifanc, mae’n rhaid iddyn nhw ddarparu:
- y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun
- unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun
Dylai CDU gael ei greu drwy gynnwys gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd i nodi ADY y plentyn neu’r person ifanc a’r ddarpariaeth i ddiwallu’r ADY hynny. Mae’n bwysig bod y CDU yn cael ei ddatblygu ar y cyd â’r plentyn neu’r person ifanc, ac yn achos plentyn, eu rhiant mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r Ddeddf ADY yn dweud bod ‘barn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc yn cael eu hystyried ym mhob cam o’r broses CDU.’
Bydd y templed CDU yn cynnwys proffil un dudalen i sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unigol yn adlewyrchu anghenion a phersonoliaeth y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys ‘beth sy’n bwysig iddyn nhw’.
Mae’r Cod ADY yn argymell cyn i’r CDU gael ei gwblhau, y dylai’r plentyn a rhiant y plentyn gael pob cyfle i wneud sylwadau am y drafft ac i godi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Dylid ystyried ac ymateb i bryderon, gall hyn olygu diweddaru’r CDU drafft, neu i roi esboniad o’r penderfyniadau dros beidio â diwygio’r drafft.
Unwaith fydd y CDU wedi’i baratoi, dylid rhoi copi i’r plentyn a’r rhiant.
Mae Pennod 23 o’r Cod ADY yn manylu ar y broses o baratoi a chynnal CDU a’i gynnwys.
Beth yw ‘rhoi’r gorau i gynnal’ CDU?
Pan fydd ysgol, coleg neu awdurdod lleol yn‘penderfynu dod â CDU i ben’, mae’n cael ei alw’n ‘rhoi’r gorau i gynnal’ y CDU.
Mae hynny’n golygu y daw’r CDU i ben ac ni fydd dyletswydd gyfreithiol ar yr ysgol, y coleg na’r ALl i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun yn cael ei derbyn gan y plentyn neu’r person ifanc.
Mae’r ddyletswydd i gynnal CDU yn ‘dod i ben’ ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fydd person ifanc yn cyrraedd 25 oed. Gall y ddyletswydd ddod i ben hefyd oherwydd bod y plentyn wedi cofrestru neu ymrestru yn rhywle arall neu’n derbyn gofal.
Gall ysgol, coleg neu awdurdod lleol benderfynu peidio â chynnal Datganiad unrhyw bryd, ond dim ond ar sail ambell reswm y gallan nhw wneud hynny:
- Mae dyletswydd ysgolion/colegau i gynnal CDU yn ‘dod i ben’ (stopio) os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn gadael yr ysgol, os yw’r ALl yn cymryd cyfrifoldeb am y CDU, os yw’r plentyn yn ‘derbyn gofal’ gan awdurdod lleol neu wedi cofrestru mewn mwy nag un lleoliad
- Mae dyletswydd awdurdod lleol yn stopio bod yn berthnasol os nad ydyn nhw bellach yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (efallai eu bod wedi symud i awdurdod arall)
- Efallai y bydd ysgol, coleg a/neu awdurdod lleol yn ‘rhoi’r gorau i gynnal’ cynllun os yw’n penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol bellach.
Cyn penderfynu i roi’r gorau i gynnal CDU, rhaid i’r plentyn neu’r person ifanc a/neu riant/gofalwr gael eu hysbysu o’r bwriad.
- Yna mae’n rhaid hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc a’r rhiant / gofalwr o’r penderfyniad a’r rhesymau drosto. (Gall hyn fod mewn llythyr neu e-bost.)
- Rhaid i’r ysgol neu’r coleg hefyd hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc a’r rhiant o’u hawl i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad y corff llywodraethu.
Os ydych yn anhapus â phenderfyniad yr ysgol neu’r coleg, gallwch ofyn i’r ALl ailystyried y penderfyniad.
Os gofynnir i’r awdurdod lleol ailystyried y mater yna mae’n RHAID iddo benderfynu a ddylai’r cynllun ddod i ben. RHAID i’r ALl eich hysbysu hefyd o’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylid cynnal y cynllun, RHAID i’r corff llywodraethu barhau i gynnal y cynllun.
Os ydych yn anhapus neu’n anghytuno â phenderfyniad yr ALl, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Tribiwnlys Addysg.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n rhaid i’r ysgol barhau i gynnal y CDU nes bod:
- y cyfnod ar gyfer ailystyried wedi dod i ben, neu
- mae’r cyfnod apelio wedi dod i ben
- neu mae apêl wedi dod gerbron y Tribiwnlys ac y penderfynwyd arni (wedi penderfynu)
Sut ddylwn i ofyn i Gynllun Datblygu Unigol fy mhlentyn gael ei adolygu?
Os ydych yn teimlo bod anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn wedi newid ac nad ydyn nhw’n cael eu disgrifio’n gywir bellach yn y CDU, neu nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yng nghynllun eich plentyn yn diwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc mwyach, gallwch ofyn i’r CDU gael ei adolygu.
Gallwch ofyn i’r CDU gael ei adolygu unrhyw bryd cyn belled â bod gennych reswm da.
Os yw CDU y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gynnal gan ysgol neu sefydliad Addysg Bellach, dylech siarad â’r ysgol neu’r coleg yn gyntaf. Gofynnwch i’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu’r Pennaeth am adolygiad o’r CDU. Dylech gyflwyno’r cais yn ysgrifenedig. (Gweler y llythyr Templed).
Os yw’r ysgol neu’r coleg yn gwrthod, gallwch ofyn i’r awdurdod lleol ail ystyried y penderfyniad hwn. Dylai’r ysgol eich hysbysu os ydyn nhw’n gwrthod adolygu’r CDU.
Dylech ysgrifennu at y person uchaf yn yr ALl, fel arfer y Cyfarwyddwr Addysg neu’r Pennaeth ADY a Chynhwysiant (mae’n amrywio ym mhob awdurdod lleol). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer y person hwnnw yn y llythyr hysbysu a anfonwyd atoch o’r ysgol, neu ar wefan yr awdurdod lleol.
Pan fyddwch yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol, dylech hefyd roi copi i’r ysgol neu’r coleg fel eu bod yn ymwybodol eich bod yn gofyn i’r awdurdod lleol ailystyried ac adolygu’r CDU.
Cofiwch gadw copi o unrhyw lythyr neu e-bost rydych yn ei anfon. Os na chewch ateb o fewn pythefnos, neu os oes angen cyngor pellach arnoch, gallwch gysylltu â SNAP Cymru.
Llythyron templed >
- Gofyn i’r ysgol neu sefydliad Addysg Bellach adolygu CDU
- Gofyn i awdurdod lleol adolygu CDU ysgol a gynhelir?