Straeon Gwirfoddolwyr
Rydym yn mwynhau clywed gan ein gwirfoddolwyr. Dyma rai straeon ynglŷn â’r ffordd y mae gwirfoddoli i SNAP Cymru wedi cael dylanwad ar ein haelodau gwerthfawr o’n tîm. Darllenwch eu straeon isod:
Stori Janice
Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda SNAP Cymru am dair mlynedd.
Y rheswm dros ddechrau gwirfoddoli oedd fy mod wedi ymddeol ar ôl bod yn athrawes am 38 mlynedd, ac yn chwilio am fudiad lle y byddwn yn gallu defnyddio’r sgiliau a’r profiad a oedd gen i.
Roeddwn yn swyddog amddiffyn plant, a oedd yn golygu cymryd rhan mewn gwaith amlasiantaethol a helpu pobl ifanc a’u teuluoedd. Roeddwn am barhau mewn rôl debyg lle y gallwn rannu fy mhrofiad a’m sgiliau er mwyn helpu teuluoedd.
Stori Jack
Fe ddes i ar draws SNAP Cymru am y tro cyntaf pan oedd angen cymorth arna i fel plentyn yn ystod fy addysg.
Fe wnaeth SNAP yn siŵr bod fy nheulu a finnau yn cael yr addasiadau roeddwn eu hangen i gwblhau fy nghymwysterau yn llwyddiannus.
Tuag at ddiwedd fy siwrnai addysgol, fe wnes i wirfoddoli gyda SNAP i ddysgu mwy am y system, cael profiad mewn amgylchedd swyddfa, ond hefyd i barhau i gefnogi’r gwaith gwych y mae SNAP Cymru yn ei wneud.
Stori Nia
Dechreuais wirfoddoli gyda SNAP yn 2009.
Mae gwirfoddoli i SNAP Cymru wedi sbarduno fy niddordeb mewn cyfiawnder a chydraddoldeb. Rwyf bellach yn gweithio fel Bargyfreithiwr yn yr Uchel Lys, Llys Sirol a Llys Teulu ledled Cymru a Lloegr. Rwyf wedi ymrwymo i weithio i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y broses gyfreithiol beth bynnag eu hanghenion neu eu hamgylchiadau unigol. Fe fyddwn i’n annog unrhyw berson ifanc sydd ag amser i’w sbario, parodrwydd i ddysgu, ac awydd i weithio gyda thîm o unigolion ymroddedig i ystyried gwirfoddoli yma hefyd.
Stori Pat
Bûm yn dysgu yn Abertawe am 34 mlynedd a phan wnes i ymddeol yn 2015 roeddwn i eisiau parhau i gymryd rhan weithredol.
Rydw i wedi mwynhau fy amser yn gwirfoddoli gyda SNAP, maer tim cyfan yn hyfryd, ofalgar a gwybodus.
Rwy’n gweithio gyda theuluoedd ar draws ardal Abertawe, gan eu cefnogi i mynegi eu barn ac i gael gafael ar y gefnogaeth gywir i’w plant.
Stori Ann
Rwyf wrth fy modd â’m rôl yn SNAP Cymru – mae’n cyd-fynd â’m mywyd prysur ac yn cadw fy ymennydd yn weithgar! Rwy’n gweithio ar y Llinell Gymorth sy’n darparu gwasanaeth annibynnol a chyfrinachol i deuluoedd sy’n ein ffonio am gyngor a chefnogaeth.
Mae rhieni yn aml yn ofidus a rhan mawr o’r galwadau bob amser yw i wrando ar eu profiad a’u helpu i ganolbwyntio ar anghenion y plentyn a’u dymuniadau y teulu a phlentyn.
Stori Pat
Rwy’n berson prysur iawn yn fy nghymuned, fy nheulu a’m côr, ac yn credu bod gwirfoddoli i SNAP Cymru yn bwysig iawn.
Rwy’n gwirfoddoli un neu ddau ddiwrnod bob wythnos yn cefnogi gwaith cyllid a gweinyddiaeth ledled Cymru.
Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn cyd-fynd â’m blaenoriaethau eraill – byddwn yn ei argymell i unrhyw un!