Gwahardd o’r Ysgol
Os yw eich plentyn wedi cael ei wahardd o’r ysgol, mae’n golygu ei fod wedi cael ei dynnu o’r ysgol heb ganiatâd i ddychwelyd, un ai am nifer benodol o ddyddiau neu’n barhaol.
Os yw ysgol yn gwahardd disgybl yn barhaol, mae hyn yn golygu y bydd ei enw’n cael ei ddileu oddi ar gofrestr yr ysgol, ac ni fydd yn cael dychwelyd i’r ysgol o gwbl.
Dylai pob ysgol geisio osgoi gwahardd drwy adnabod materion all arwain at wahardd. Dylent ddarparu cefnogaeth gynnar a chwilio am opsiynau amgen i wahardd plentyn, yn enwedig os oes gan y plentyn ADY neu os yw’n fregus. Dylai ysgolion feddwl yn ofalus iawn cyn penderfynu gwahardd disgybl gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae canllawiau Llywodraeth
/gwahardd-or-ysgol/gwaharddiadau-swyddogol-neu-answyddogol/?lang=cy
Cymru ar Wahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (2019) ar atal a rheoli gwahardd yn glir:
‘Dylai gwahardd o’r ysgol ond gael ei ddefnyddio fel opsiwn olaf’
Dim ond dau reswm sydd pam y dylid gwahardd plentyn o’r ysgol:
- mewn ymateb i achosion difrifol a/neu gyson o dorri polisi ymddygiad yr ysgol
- os byddai galluogi’r disgybl i aros yn yr ysgol yn niweidio’n sylweddol addysg neu les y disgybl neu rai eraill yn yr ysgol
Rhaid i ysgolion roi un o’r rhesymau hyn dros wahardd bob amser. Dylai’r Pennaeth ddweud wrthych yn ysgrifenedig am ba hyd y bydd eich plentyn wedi’i wahardd.
NI ddylid gwahardd disgybl am fân ddigwyddiadau megis:
- Perfformiad academaidd gwael
- Bod yn hwyr/chwarae triwant
- Peidio â gwisgo gwisg ysgol
- Beichiogrwydd
- Anghofio gwaith cartref
Gellid gwahardd eich plentyn o’r ysgol am ymddygiad y tu allan i’r ysgol os oes tystiolaeth ei fod yn effeithio ar gynnal ymddygiad da a disgyblaeth yr ysgol yn ei chyfanrwydd. Mae ymddygiad dysgwyr y tu allan i’r ysgol ar fusnes yr ysgol yn destun polisi ymddygiad yr ysgol yn ystod:
- Teithiau ysgol,
- Gemau chwaraeon yr ysgol oddi cartref
- Lleoliadau profiad gwaith
Ymddygiad y tu allan i’r ysgol, nad yw ar fusnes yr ysgol:
Gall pennaeth wahardd dysgwr os oes cysylltiad clir rhwng yr ymddygiad hwnna a chynnal ymddygiad da a disgyblaeth corff y dysgwyr yn ei gyfanrwydd.
- Ardal gyfagos i’r ysgol
- Ar daith i neu o’r ysgol
- Dim ond y Pennaeth neu rywun sydd wedi’i ddynodi’n Bennaeth Gweithredol sydd ag awdurdod i wahardd disgybl oherwydd ymddygiad.
Gall ymddygiad sy’n tarfu fod yn arwydd o anghenion nad ydynt yn cael eu bodloni. Os oes gan ysgol bryderon am ymddygiad disgybl, dylai geisio adnabod a oes unrhyw ffactorau achosol ac ymyrryd yn gynnar er mwyn lleihau’r angen am wahardd maes o law.
Dylai ymyrraeth gynnar er mwyn mynd i’r afael ag achosion ategol o ymddygiad sy’n tarfu gynnwys asesiad a oes darpariaeth briodol ar waith i gefnogi unrhyw ADY neu anabledd allai fod gan ddisgybl.
Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.
Gwaharddiadau Swyddogol neu Answyddogol
Weithiau mae ysgolion yn defnyddio rhesymau gwahanol am dynnu plentyn o ysgol. Weithiau, cyfeirir at y rhain fel “gwaharddiadau anffurfiol” a gallant gynnwys:
- anfon plentyn adref yn gynnar
- awgrymu “cyfnod cnoi cil”
- dweud na all y plentyn ymdopi gyda diwrnod llawn yn yr ysgol.
Mae rhai mathau o waharddiadau anghyfreithlon na ddylai ddigwydd.
Gwaharddiadau Tymor Penodol
Golyga hyn fod eich plentyn wedi cael ei wahardd am gyfnod penodol ac ni fydd ef neu hi’n gallu dychwelyd i’r ysgol yn ystod cyfnod y gwaharddiad.
Gall hyd y gwaharddiad tymor penodol fod rhwng hanner diwrnod a 45 diwrnod mewn blwyddyn academaidd. Ni ddylai gwaharddiadau tymor penodol fod yn fwy na 45 diwrnod mewn blwyddyn ysgol.
Ni ddylai gwaharddiadau tymor penodol fod ar gyfer cyfnod amhenodol.
Gwaharddiadau Parhaol
Mae gwahardd yn barhaol yn ddifrifol iawn, ac mae’n golygu na fydd eich plentyn yn cael mynd yn ôl i’r ysgol.
Mae’n rhaid i’r ysgol a’r awdurdod lleol wneud yn siŵr bod y gwaharddiad yn deg.
Mae’n rhaid i’r pennaeth ddweud wrthych chi, y corff llywodraethu a’r awdurdod arall cyn gynted ag y mae’n digwydd.
Dylai’r ysgol gymryd camau rhesymol (gwneud ei gorau) i osod gwaith i’ch plentyn a’i farcio yn ystod 5 diwrnod cyntaf y gwaharddiad.
Cwestiynau Cyffredin:
Mae gan fy mhlentyn ADY/AAA ac mae’n cael ei wahardd. Beth gallaf i wneud?
Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i wneud eu gorau i sicrhau bod y ddarpariaeth angenrheidiol ar gael i unrhyw ddysgwr sydd ag ADY/AAA.
Dylai ysgolion wneud pob ymdrech i osgoi gwahardd dysgwyr sy’n cael cefnogaeth:
- Cynllun Datblygu Unigol
- Drwy Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy neu’r rhai gyda Datganiad AAA gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hasesu ar gyfer datganiad.
Noda Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 y dylai ysgolion geisio pob dull ymarferol o gynnal y dysgwr yn yr ysgol, gan gynnwys gofyn i’r ALl a gweithwyr proffesiynol eraill i gynnig cyngor a chymorth ychwanegol.
Mae’n bosibl y bydd plant ag ADY neu AAA yn cael eu gwahardd am resymau’n deillio o ddiffyg bodloni eu hanghenion. Os yw’ch plentyn wedi cael ei wahardd, am dymor penodol neu’n barhaol, dylech ystyried pa gamau gweithredu y gall yr ysgol eu rhoi ar waith i fodloni eu hanghenion yn fwy effeithiol, ac osgoi gwaharddiadau eraill yn y dyfodol.
Os ydych chi’n credu fod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol ond nid oes ganddo/ganddi gynllun datblygu unigol (IDP), neu Ddatganiad, dylech ofyn i’r ysgol am IDP. (Gweler yr adran IDP).
Os oes gan eich plentyn eisoes IDP gofynnwch am adolygiad brys o’r gefnogaeth hon. Os ydych chi’n poeni nad yw wedi bod yn derbyn y gefnogaeth a gytunwyd, gofynnwch i weld y cynllun ac unrhyw gofnodion sydd gan yr ysgol am gefnogaeth eich plentyn. Dylech ofyn i gwrdd â’r ysgol ar unwaith i drafod a oes unrhyw beth arall y mae modd ei wneud i gefnogi ADY eich plentyn.
Beth fydd yn digwydd i addysg fy mhlentyn tra y bydd allan o’r ysgol?
Dylai’r ysgol gymryd camau rhesymol i osod gwaith i’ch plentyn, a’i farcio yn ystod pum diwrnod cyntaf y gwaharddiad.
Dylai ysgolion fod â strategaeth ar gyfer ail-integreiddio disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol yn dilyn cyfnod o waharddiad tymor penodol, ac ar gyfer rheoli eu hymddygiad.
O chweched diwrnod y gwaharddiad, mae’n rhaid i’r ysgol ddarparu addysg ddigonol. Mae hyn ar gyfer pob gwaharddiad tymor penodol unigol dros bum diwrnod. Os yw eich plentyn wedi’i wahardd am fwy na 5 diwrnod, mae ganddo hawl i addysg amgen.
Mae fy mhlentyn yn anabl ac mae wedi’i wahardd
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn dysgwyr rhag gwahaniaethu ar sail nodweddion gwarchodedig. Mae plentyn yn anabl os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol hirdymor sy’n cael effaith andwyol ar ei allu i gyflawni gweithgareddau bob dydd (dyma’r diffiniad yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
Mae’r Gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i ysgolion wneud addasiadau rhesymol i osgoi lleoli disgybl anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â chyfoedion nad ydynt yn anabl. Mae’n rhaid i ysgolion gymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod disgyblion anabl yn gallu cyfrannu’n llawn at yr addysg a ddarperir, ac yn gallu cael mynediad i fuddion, cyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael i bob disgybl.
Nid yw’r Gyfraith yn atal ysgolion rhag gwahardd plant os oes modd arddangos ei fod yn “gyfrannol” gwneud hynny, ond mae’n bosibl bod ysgol wedi gwahaniaethu yn erbyn plentyn anabl os oedd yn gwybod am anabledd y plentyn, ac os oedd y gwaharddiad gan fod y plentyn yn anabl, neu oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd oherwydd yr anabledd.
Gall Tribiwnlys Addysg Cymru wrando ar honiadau ynghylch gwahaniaethu mewn gwaharddiadau tymor penodol.
Os ydych chi o’r farn fod eich plentyn wedi cael ei drin yn annheg gan ei fod yn anabl, cysylltwch â’n llinell gwahaniaethu i gael cymorth.
0808 801 0806
Bydd gofyn i ysgolion brofi bod eu camau gweithredu’n gyfiawn, ac nad oedd modd gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i osgoi’r digwyddiad wnaeth arwain at y gwaharddiad.
‘Beth os ydw i’n anghytuno gyda’r gwaharddiad?’
Efallai yr hoffech ofyn i’r ysgol am:
- bolisi anghenion addysgol arbennig/anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol
- polisi cyfle cyfartal yr ysgol
- polisi ymddygiad yr ysgol
- cofnod ysgol eich plentyn
- unrhyw ddatganiadau tystion ynghylch yr achos wnaeth arwain at y gwaharddiad
Bydd angen i chi anfon llythyr i’r ysgol yn gofyn am y dogfennau hyn.
Hawl y rhiant/gofalwr i weld a chael copi o gofnod addysg y dysgwr ar gais ysgrifenedig i’r ysgol fel y’i nodir yn rheoliad 5 y Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgyblion) (Cymru) 2004
Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad yr ysgol i wahardd eich plentyn, mae gennych yr hawl i nodi eich achos, wyneb yn wyneb, i lywodraethwyr yr ysgol. Mae’n well i chi nodi’ch hawl i apelio yn ysgrifenedig i’r ysgol.
Bydd gan bob ysgol bwyllgor disgyblu. Mae pwyllgor disgyblu yn cynnwys tri i bump o lywodraethwyr o’r ysgol, wedi’u cynnull i glywed sylwadau rhieni/gofalwyr ac i ystyried priodoldeb y gwaharddiad. Bydd y pwyllgor yn adolygu gwaharddiad y plentyn os yw:
- Wedi’i wahardd yn barhaol
- Wedi’i wahardd am o leiaf 15 diwrnod
- Os bydd y gwaharddiad yn golygu y bydd yn colli arholiad
Gallwch ofyn iddynt adolygu os yw eich plentyn wedi’i wahardd am fwy na phum diwrnod mewn un tymor
Rhaid i’r pwyllgor ystyried unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig gennych chi neu eich plentyn. Gallech ddweud wrthynt am strategaethau eraill y gellid eu rhoi ar waith ar gyfer eich plentyn, oherwydd efallai bod angen rhagor o gefnogaeth neu gefnogaeth wahanol yn yr ysgol. Os yw’r pwyllgor disgyblu’n cytuno y dylid gwahardd eich plentyn, dylent:
- roi rhesymau dros y penderfyniad
- rhoi gwybod am y diwrnod olaf y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad
- egluro sut gallwch chi apelio.
Gall y rhiant a gofalwr a/neu’r dysgwr gael ffrind neu gynrychiolydd cyfreithiol yn bresennol ar gais. Gall SNAP Cymru eich helpu fan hyn.
Bydd y PDC yn adolygu’r gwaharddiad a nodir ac ni all gynyddu difrifoldeb gwaharddiad, gallent gadarnhau gwaharddiad, neu gyfeirio adferiad y dysgwr, un ai ar unwaith neu erbyn dyddiad penodol.
Os na all y pwyllgor disgyblu adfer yn uniongyrchol gan fod cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben, ac mae’r dysgwr wedi dychwelyd i’r ysgol, gallent roi copi o’r canfyddiadau ar gofnod ysgol y dysgwr.
Dylai’r pwyllgor disgyblu gadw mewn cof, yn achos gwaharddiad parhaol, os bydd apêl yn cael ei chyflwyno yn erbyn penderfyniad y pwyllgor nid yn unig y bydd y panel yn adolygu penderfyniad y pwyllgor yn unig, bydd hefyd yn clywed ffeithiau’r achos eto, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth newydd.
Oes modd i mi herio penderfyniad y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDC)?
Mae gennych hawl i gael gwrandawiad panel apeliadau annibynnol os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad y pwyllgor disgyblu.
Bydd yr awdurdod lleol (ALl) yn trefnu’r panel apeliadau annibynnol.
Mae’r panel yna i benderfynu, ‘wrth bwyso a mesur tebygolrwydd’, a yw eich plentyn wedi gwneud yr hyn sydd wedi’i nodi yn yr honiad. Mae hyn yn golygu, wrth archwilio honiadau difrifol, dylai’r Pennaeth fod wedi casglu ac ystyried ystod eang o dystiolaeth wrth bennu ‘a oedd yn fwy tebygol na pheidio’, bod eich plentyn wedi ymddwyn yn yr un modd â’r hyn a nodir yn yr honiad.
Yn eich llythyr apêl, dylech ddatgan pam rydych chi’n credu na ddylai eich plentyn fod wedi cael ei wahardd a chynnwys unrhyw ddogfennau yr hoffech i’r panel eu hystyried i gefnogi eich achos.
Mae’n bosibl y bydd y panel:
- yn cytuno gyda’r penderfyniad i wahardd eich plentyn
- yn gwrthdroi’r penderfyniad i wahardd a chaniatáu i’ch plentyn ddychwelyd i’r ysgol
- yn penderfynu nad yw’n ymarferol i adael i’ch plentyn ddod yn ôl i’r ysgol oherwydd amgylchiadau eithriadol neu resymau eraill.
Unwaith y mae’r panel apeliadau annibynnol wedi gwneud ei benderfyniad, nid oes modd ei newid. Os ydych chi’n credu bod y panel adolygu wedi ‘camweinyddu’ mewn unrhyw ffordd (hynny yw, camgymeriadau yn y ffordd y mae proses yr apeliadau wedi’i chyflawni), gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhaid cyflwyno’r gŵyn hon o fewn blwyddyn o’r camweinyddu honedig.
Os ydych chi’n meddwl bod penderfyniad y Panel Apeliadau Annibynnol yn anghywir (yn anghywir yn gyfreithlon) gallwch wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwriaethol ddim mwy na thri mis o ddyddiad y penderfyniad. Dylech drafod gyda chyfreithiwr wrth ystyried gweithdrefnau adolygu barnwriaethol.
Beth gall SNAP Cymru ei wneud?
Gallwn eich helpu i gasglu’r holl wybodaeth bwysig sydd ei hangen am eich plentyn, yr ysgol a’r gwaharddiad.
Gallwn eich helpu i ysgrifennu llythyrau i’r ysgol.
Gallwn eich helpu i gasglu gwybodaeth am y digwyddiad ac ysgrifennu eich syniadau a’ch meddyliau am waharddiad eich plentyn a’r rhesymau posibl dros yr achos.
Efallai y byddwn yn gallu mynd i gyfarfodydd gyda chi yn yr ysgol a helpu chi a’ch plentyn i drafod eich achos yn effeithiol.
Dolen i’r ‘Taflenni Gwahardd’
Dolen i ‘Beth yw ADY?’
Dolen i ‘Gwahaniaethu’
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Waharddiadau (2019) >
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfarfodydd yn ymwneud â gwahardd o’r ysgol (2020)
https://llyw.cymru/gwahardd-or-ysgol-canllawiau-cyfarfodydd-html