Gwaharddiadau Parhaol
Mae gwahardd yn barhaol yn ddifrifol iawn, ac mae’n golygu na fydd eich plentyn yn cael mynd yn ôl i’r ysgol.
Mae’n rhaid i’r ysgol a’r awdurdod lleol wneud yn siŵr bod y gwaharddiad yn deg.
Mae’n rhaid i’r pennaeth ddweud wrthych chi, y corff llywodraethu a’r awdurdod arall cyn gynted ag y mae’n digwydd.
Dylai’r ysgol gymryd camau rhesymol (gwneud ei gorau) i osod gwaith i’ch plentyn a’i farcio yn ystod 5 diwrnod cyntaf y gwaharddiad. Ond efallai y bydd angen i chi gasglu a dychwelyd y gwaith os nad yw’n cael ei osod ar-lein.
O chweched diwrnod y gwaharddiad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gan eich plentyn addysg lawn amser. (Ni does unrhyw ganllawiau penodol am addysg lawn amser, ond mae fel arfer yn golygu o leiaf 25 awr.)
Rhaid i’r llywodraethwyr gwrdd o fewn 15 diwrnod ysgol i drafod gwaharddiad parhaol. Bydd y llywodraethwyr yn penderfynu a fydd eich plentyn yn gallu mynd yn ôl i’r ysgol. Mae hyn yn golygu na fydd eich plentyn yn cael mynd yn ôl i’r ysgol cyn y cyfarfod.
Fel arfer, dylai’r penderfyniad i wahardd dysgwr fod yn opsiwn olaf.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Pennaeth wahardd yn ffurfiol dysgwr am drosedd gyntaf neu untro.
Gall y rhain gynnwys:
- trais ddifrifol gwirioneddol neu fygythiad o drais yn erbyn dysgwr arall neu aelod o staff
- camdriniaeth neu ymosodiad rhywiol
- cyflenwi cyffur anghyfreithlon
- defnyddio neu fygwth defnyddio arf ymosodol.
Ni ddylid trafod gwaharddiad dan wylltio, oni bai bod bygythiad uniongyrchol i ddiogelwch eraill yn yr ysgol neu’r dysgwr perthnasol.
Cyn penderfynu a ddylid gwahardd dysgwr, un ai am dymor penodol neu’n barhaol, dylai’r pennaeth:
- Sicrhau bod archwiliad priodol wedi’i gynnal
- Ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi’r honiadau. (Po fwyaf difrifol yw’r honiad ac felly’r gosb arfaethedig, y mwyaf darbwyllol y mae angen i’r dystiolaeth yn cefnogi’r honiad fod.)
- Ystyried polisïau ymddygiad a chyfle cyfartal yr ysgol, a Deddf Cydraddoldeb 2010 lle bo’n bosibl
- Galluogi’r dysgwr i roi ei fersiwn ef/hi o’r achos
- Gwirio a oedd rhywbeth wedi cymell y digwyddiad, e.e. drwy fwlio neu aflonyddu hiliol neu rywiol
- Trafod ag eraill os oes angen, ond nid unrhyw un a fyddai o bosibl yn chwarae rhan yn adolygu penderfyniad y pennaeth, e.e. aelod o’r pwyllgor disgyblu
- Cadw cofnod ysgrifenedig o’r digwyddiad a’r camau gweithredu a roddwyd ar waith
Beth allwch chi ei wneud
Mae gennych hawl i fynegi eich pryderon am waharddiad eich plentyn o’r ysgol wyneb yn wyneb. Dylech ysgrifennu at yr ysgol i egluro yr hoffech gyflwyno sylwadau i’r llywodraethwyr yng nghyfarfod Disgyblu’r Disgybl.
Mae gennych hawl hefyd i ofyn i gael gweld:
- polisi ymddygiad a disgyblu’r ysgol
- polisi anghenion addysgol arbennig yr ysgol
- polisi cyfle cyfartal yr ysgol
- cofnod ysgol eich plentyn
- datganiad eich plentyn, neu’r cynllun gofal iechyd addysg
- unrhyw ddatganiadau tystion ynghylch yr achos wnaeth arwain at y gwaharddiad
Ewch drwy gopi adroddiad y pennaeth i’r llywodraethwyr gyda’ch plentyn. Gofynnwch am ei farn.
Cyfarfod pwyllgor disgyblu’r llywodraethwyr
Bydd llywodraethwyr yr ysgol, y pennaeth a chi fel rhieni yn cwrdd mewn cyfarfod pwyllgor disgyblu’r llywodraethwyr. Mae gennych hawl i fod yno, a dylai’r ysgol anfon gwahoddiad i chi. Gallwch fynd â rhywun gyda chi i gael cymorth. Gall SNAP Cymru eich helpu i baratoi ac weithiau gallant ddod i’r cyfarfod gyda digon o rybudd.
Y llywodraethwyr yw’r unig bobl all wneud penderfyniad ar a ddylid cadarnhau’r penderfyniad i wahardd eich plentyn, sy’n golygu na fydd eich plentyn yn cael mynd yn ôl i’r ysgol cyn gwrandawiad y llywodraethwyr.
Gall y llywodraethwyr wrthdroi gwaharddiad y pennaeth, sy’n golygu y bydd eich plentyn yn gallu mynd yn ôl i’r ysgol.
Efallai y byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad yn ystod y cyfarfod, neu’n ysgrifenedig, o fewn un diwrnod.
Os gwneir penderfyniad i gadarnhau’r gwaharddiad, bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â chi a chynhelir cyfarfod i drafod yr opsiynau ar gyfer addysg eich plentyn.
Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad y llywodraethwyr, gallwch wneud cais i’r awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth yr academi i drefnu panel adolygu annibynnol. Bydd gennych 15 diwrnod ysgol i benderfynu os hoffech wneud hyn.
Panel Apêl Annibynnol
Os bydd y llywodraethwyr yn penderfynu bod cyfiawnhad dros y pennaeth wrth wahardd eich plentyn yn barhaol, rhaid iddynt hefyd roi gwybod i chi am eich hawl i ofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu gan Banel Apêl Annibynnol. Dylent hefyd roi gwybod i chi:
- bod gennych 15 diwrnod ysgol, o’r dyddiad y cawsoch eich hysbysu am benderfyniad y llywodraethwyr, i ofyn am adolygiad
- at bwy y dylech anfon eich cais adolygu a’i gyfeiriad
- y bydd angen i chi fod yn glir ar ba sail yr ydych yn gofyn am yr adolygiad – dylai hyn gyfeirio at sut mae AAA/ADY eich plentyn yn berthnasol i’r gwaharddiad eich hawl i wrandawiad panel apêl annibynnol hyd yn oed os na wnaethoch gyflwyno achos iddo,
- eich hawl i wrandawiad panel apêl annibynnol hyd yn oed os na wnaethoch gyflwyno achos i’r pwyllgor disgyblu, neu fynychu
- y gallwch, ar eich traul eich hun, benodi rhywun i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a/neu lafar i’r panel hwnnw ac y gallwch hefyd fynd â ffrind neu gefnogwr i’r adolygiad.
Bydd eich plentyn yn aros ar gofrestr yr ysgol hyd nes y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau, neu os yw’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais am un wedi dod i ben, neu hyd nes y byddwch yn ysgrifennu i ddweud wrth yr ALl na fyddwch yn gwneud cais i’r Panel Apêl Annibynnol.
Rôl y panel yw adolygu penderfyniad y llywodraethwyr i beidio ag adfer eich plentyn. Ar ôl hyn, gall y panel benderfynu:
- gymeradwyo’r penderfyniad i wahardd
- gwrthdroi penderfyniad i wahardd a chyfarwyddo bod y dysgwr yn cael ei dderbyn yn ôl
- penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, nad yw’n ymarferol i gyfarwyddo bod y plentyn yn cael ei dderbyn yn ôl i’r ysgol, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o’r fath.
Dylai’r panel ystyried y sail i benderfyniad y pennaeth a’r gweithdrefnau a ddilynwyd gan roi ystyriaeth i
- a wnaeth y pennaeth a’r pwyllgor disgyblu gydymffurfio â’r gyfraith a rhoi ystyriaeth i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar wahardd
- polisïau ymddygiad, cyfleoedd cyfartal ac atal bwlio, AAA a chydraddoldeb hiliol, neu unrhyw bolisi perthnasol arall a gyhoeddwyd gan yr ysgol
- tegwch y gwaharddiad hwn o’i gymharu â’r driniaeth a roddwyd i unrhyw ddysgwyr eraill a fu’n gysylltiedig â’r un digwyddiad.
Mae penderfyniad y Panel Apêl Annibynnol yn rhwymo chi, eich plentyn, y llywodraethwyr, y pennaeth a’r awdurdod lleol. Os credwch fod y Panel Apêl Annibynnol wedi gwneud camgymeriadau yn y ffordd y mae wedi cyflawni’r broses (camweinyddu), gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rhaid gwneud y gŵyn hon o fewn blwyddyn i’r camweinyddu honedig.
Os credwch fod penderfyniad y Panel Apêl Annibynnol yn ddiffygiol, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol. Felly, a all y llywodraethwyr a’r ALl. Mae angen gwneud hyn o fewn tri mis i ddyddiad y penderfyniad. Rydym yn eich cynghori i siarad â chyfreithiwr yn gyntaf. Efallai y bydd ein Cyfeirlyfr Gwasanaethau Awtistiaeth yn eich helpu i ddod o hyd i un sy’n addas.