Weithiau gall cael siarad â llinell gyngor fod yn anodd. Gall y galw am ein llinell gymorth fod hunod o uchel ac yn brysur iawn ac efallai y bydd gennych amserlen brysur. Er mwyn ceisio goresgyn hyn rydym wedi cyflwyno system archebu ar gyfer ein llinell gymorth.
broblemau sydd gennych ynghylch anghenion eich plentyn. Gallai hyn fod ynglyn a newidiadau i’r system; adolygiadau blynyddol; gwahaniaethu ar sail anabledd, gwaharddiadau ac ati. Gallwch archebu apwyntiad â chynghorydd Llinell Gymorth, mae’r apwyntiadau galw’n ôl yn cael eu rhyddhau hyd at fis ymlaen llaw.
Drwy glicio ar y dyddiad o’ch dewis gallwch weld pob slot sydd ar gael ar gyfer ein llinell gymorth ar y diwrnod hwnnw.
Bydd pob slot gyda chynghorydd yn para am 45 munud. Os na allwch weld yr amser rydych chi ei eisiau, bydd angen i chi glicio ar ddyddiad arall. Os hoffech gael sgwrs â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg dylech nodi hyn wrth gyflwyno eich gwybodaeth.
Os nad oes slotiau ar gael gallwch:
Pan fyddwch yn archebu apwyntiad gofynnir i chi lenwi Ffurflen Gwybodaeth. Caiff y ffurflen ei rhannu gyda’r cynghorydd cyn eich apwyntiad.
Bydd yr wybodaeth a roddir gennych yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac ni fyddwn yn rhannu eich enw na gwybodaeth bersonol amdanoch gyda neb arall.
Os nad oes slotiau ar gael gallwch:
- ffonio ein llinell gymorth yn y ffordd arferol ar 0808 801 0608. (Gall ein cynghorwyr hefyd eich helpu i drefnu apwyntiad am galwad yn ôl)
- gallwch hefyd gyflwyno ffurflen ymholiad ADY o dudalen gyswllt ein gwefan ar ôl ei chyflwyno byddwch yn derbyn ateb electronig gan gynghorydd o fewn 72 awr.
Recent Comments