Paratoi am Cyfarfodydd
Bwriad ein gwybodaeth yw eich helpu i deimlo’n fwy hyderus a pharod i drafod cynnydd eich plentyn yn yr ysgol.
Mae gan ysgolion ffyrdd gwahanol o adolygu cynnydd plentyn. Os nad oes gennych bryderon sylweddol, gallai fod yn rhywbeth y gallwch ei drafod yn gyflym, fel rhan o noson rieni arferol; os ydych chi’n hapus â hyn, does dim problem. Serch hynny, os oes pryderon na ellir delio â nhw’n hawdd, gallwch chi neu’r ysgol ofyn am gyfarfod ar wahân.
Os ydych yn credu bod anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar eich plentyn, dylech ofyn am gyfarfod i drafod hyn.
Serch hynny, os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni: – Llinell gymorth 0808 801 0608 neu www.snapcymru.org/contact/?lang=cy
Gofyn am gyfarfod
Wrth ofyn am gyfarfod, mae’n werth meddwl pwy ddylai fod yn bresennol.
Fel arfer, athro dosbarth eich plentyn a/neu gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgolion fyddai hynny.
Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig (AAA) / anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn barod, efallai yr hoffech ofyn a all unrhyw aelod o staff cymorth neu weithwyr proffesiynol allanol sy’n gweithio gyda’ch plentyn fod yn bresennol.
Cofiwch po fwyaf o bobl y gofynnwch amdanyn nhw mewn cyfarfod, yr hiraf y gall gymryd i ddod o hyd i ddyddiad, felly ystyriwch a ellid ymgynghori â rhai pobl mewn gwahanol ffyrdd.
Gallwch ofyn am gyfarfod ar lafar; fodd bynnag, fel arfer mae’n well anfon llythyr neu e-bost at yr ysgol, wedi’i gyfeirio at y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol.
Llythyr templed
Annwyl (enw’r athro neu cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol)
Rwy’n poeni am (enw’r plentyn, dyddiad geni a blwyddyn ysgol) gan nad yw’n ymddangos ei fod/ei bod (e/hi) yn gwneud cynnydd yn yr ysgol/cael trafferthion gyda …..)
Felly, hoffwn gael cyfarfod i drafod hyn ac i adolygu (ei gynnydd/ei chynnydd).
Hoffwn drafod y canlynol yn benodol:
(enghreifftiau’n cynnwys:
- Y lefelau y mae e / hi yn gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd.
- Ydy e / hi ar y lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran?
- Pa gymorth ychwanegol y mae e / hi yn ei dderbyn yn yr ysgol?
- Oes unrhyw gymorth pellach y gellir ei roi?
- Ydych chi’n credu bod gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?)
Edrychaf ymlaen at glywed wrthych ynglŷn â dyddiad ac amser ar gyfer y cyfarfod hwn.
Gallwch gysylltu â fi ar (rhifau ffôn cyswllt).
Yn gywir,
(eich enw)
Sut i baratoi
Gwnewch nodyn o’r problemau neu’r cwestiynau sydd gennych:
- Beth sy’n digwydd neu ddim yn digwydd sy’n eich gwneud chi’n anhapus?
- Meddyliwch am yr hyn a fyddai’n ei wella.
- Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau i’r ysgol ei wybod.
- Os ydych yn poeni nad yw anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu, ceisiwch gael ambell enghraifft benodol wrth law. Rhestrwch bob mater ar wahân ac ysgrifennwch enghreifftiau sydd wedi digwydd.
- Gofynnwch i’ch plentyn beth maen nhw eisiau ei rannu. Ysgrifennwch sut mae’ch plentyn yn teimlo’n emosiynol ac yn gymdeithasol.
- Rhestrwch beth rydych chi eisiau ei weld yn digwydd.
- Meddyliwch a yw’r hyn rydych chi’n gofyn amdano wrth yr ysgol yn rhesymol?
- Meddyliwch am opsiynau eraill a allai weithio a lle rydych chi’n barod i gyfaddawdu.
- Byddwch yn barod i rannu’r holl wybodaeth hyn gyda’r ysgol, bydd gyda nhw eu hopsiynau hefyd, ond cofiwch mai chi yw’r arbenigwr ar eich plentyn.
Gall mynychu cyfarfodydd am addysg eich plentyn fod yn brofiad positif iawn ond gall hefyd beri gofid neu rwystredigaeth. Cofiwch fod y gyfraith yn dweud y dylech chi fod yn rhan o benderfyniadau am addysg a chymorth eich plentyn ac i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed. Mae angen i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich plentyn yn yr ysgol.
Yn y cyfarfod
- Gofynnwch i bobl gyflwyno eu hunain ac i egluro eu rolau
- Gofynnwch am esboniad os oes unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall
- Gofynnwch i nodiadau gael eu cymryd – neu gwnewch rai eich hun
- Os nad ydych yn siŵr beth y cytunwyd arno, gofynnwch iddyn nhw egluro hyn i chi
- Rhannwch beth mae eich plentyn yn ei ddweud wrthych gartref
- Gwnewch awgrymiadau ynglŷn â beth allai helpu
- Gofynnwch pam maen nhw’n meddwl bod ein plentyn yn cael anhawster?
- Gofynnwch pa help mae’n nhw’n ei gredu sydd ei angen ar eich plentyn i’w helpu i ddatblygu?
- Gofynnwch am gopi o gynllun diweddaraf eich plentyn os oes ganddyn nhw un
- Efallai yr hoffech chi nodi’r hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfod. Bydd yn ffordd ddefnyddiol i’ch atgoffa nes ymlaen
Ymadroddion defnyddiol
“A oes dewisiadau eraill y gallem eu hystyried, gan fod gen i rai pryderon na fydd fy mhlentyn yn ymdopi â’r lefel honno o gymorth?”
“Gallwn ni siarad ynglŷn â beth sy’n gweithio’n dda gan fod fy mhlentyn yn llawer hapusach y tymor yma?”
“Alla i rannu beth mae fy mhlentyn wedi’i ddweud am deimlo’n ynysig amser cinio?”
“Oes gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol?”
” Alla i wirio mod i wedi deall yr hyn wnaethoch chi ei ddweud am gymorth ychwanegol?”
“A allech chi egluro sut fydd y cymorth yn cael ei reoli o ddydd i ddydd?”
“Sut byddwn ni’n adolygu cymorth fy mhlentyn i weld os yw’n gweithio?”
“Beth yw’r ffordd orau o gysylltu â’r ysgol os oes gen i unrhyw broblemau?”
Cofiwch, efallai nad yw eich pryderon yn ymwneud â’u gwaith ysgol yn unig, efallai y byddwch hefyd am drafod newidiadau o ran ymddygiad, materion iechyd neu orbryder cynyddol.
Efallai y byddwch eisiau siarad â SNAP Cymru cyn mynychu cyfarfod –
ffoniwch ni ar: 0808 8010608