Amcanion
Rydym yn hynod falch bod SNAP Cymru, ers dros 35 mlynedd, wedi bod yn lle i deuluoedd droi ato pan fydd angen cyngor diduedd a dibynadwy arnynt. Rydym wedi helpu dros 90,000 o deuluoedd gyda 200,000 o bryderon ers i ni lansio yn 1986. Bu hyn i gyd yn bosibl diolch i’n staff, ein cefnogwyr, ein partneriaid a’n gwirfoddolwyr anhygoel.
Rydym yn sefyll ar drothwy deddfwriaeth newydd, gyda SNAP Cymru yn bwrw ymlaen â’r agenda cynhwysiant ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn darparu cyngor addysgol arbenigol i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Ym mha bynnag faes gwaith rydym yn gweithio, rydym yn mynd ati i ddod o hyd i atebion sydd mor agos â phosib at y plentyn neu’r unigolyn ifanc. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr ym mhob rhan o’r gwasanaeth, yn enwedig y rheini sy’n gwirfoddoli eu hamser a’u harbenigedd fel ymddiriedolwyr ac ymgynghorwyr.
Mae llawer wedi newid er gwell, ond, wrth i’r agenda cynhwysiant ddatblygu, mae llawer iawn i’w wneud o hyd. Mae heriau o’n blaenau o hyd wrth i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym yn ein Hysgolion, y Blynyddoedd Cynnar a Cholegau Addysg Bellach, ac rydym yn falch o’r hyn y gall SNAP Cymru ei gyfrannu at y system newydd gyda’n hanes hir o weithio gyda rhieni a phartneriaid.
Mae ein gweledigaeth yn parhau i fod yn glir ac rydym yn parhau i hyrwyddo newid er mwyn gwella polisi, ymarfer a darpariaeth ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Ein Nodau
Mae ein bwrdd o Ymddiriedolwyr yn gosod ac yn cynnal ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd; ac yn credu bod darparu gwasanaethau sy’n seiliedig ar fodel gwirfoddoli yn sicrhau gwerth ychwanegol a pharhad gwasanaeth y tu hwnt i’n gweithwyr proffesiynol cyflogedig.
Mae datganiad cenhadaeth ac amcanion elusennol SNAP Cymru yn allweddol wrth bennu gweithgareddau’r mudiad. Yr amcanion elusennol yw:
- Darparu neu gynorthwyo i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i alluogi plant a phobl ifanc a’u rhieni neu eu gwarcheidwaid i gyfranogi’n llawn ac yn gyfartal mewn cymdeithas.
- Cynorthwyo rhieni a gwarcheidwaid i ddeall y ddeddfwriaeth berthnasol a thrwy hyn hwyluso cyfraniad a chyfranogiad eu plant mewn dewisiadau bywyd.
- Hwyluso partneriaeth rhwng pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag addysg a chynhwysiant.
Hyd yn hyn yn 2021 – 2022:
O Deuluoedd wedi’u cefnogi
o Alwadau i’r Llinell Gymorth
o Wirfoddolwyr ar hyn o bryd
o Faterion
Adolygiad Blynyddol SNAP Cymru 2020
Darllenwch ein Hadolygiad Blynyddol i ddysgu am yr hyn rydym wedi bod yn ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf:
Cynllun ar gyfer y Gymraeg
Cynllun iaith Gymraeg SNAP Cymru darllenwch y ddogfen lawn yma:
Datganiad o Ddiben yr Iaith Gymraeg
Dysgwch Fwy:
Ein Heffaith
Rydym wrth ein bodd yn rhannu’r straeon gan ein teuluoedd a’n gwirfoddolwyr am sut mae SNAP Cymru wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau! Dewch i gael cip olwg drwy ein tystiolaethau i ddysgu mwy am effaith SNAP Cymru:
Stori Bethan
“Ers 18 mis, ro’n i wedi ceisio cael lle i David, fy mab, yn y lleoliad cywir a fyddai’n gallu bodloni ei restr hir o anghenion.”
Stori Janice
“Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda SNAP Cymru am dair mlynedd. Y rheswm dros ddechrau gwirfoddoli oedd fy mod wedi ymddeol ar ôl bod yn athrawes am 38 mlynedd”
Stori Jack
“Fe ddes i ar draws SNAP Cymru am y tro cyntaf pan oedd angen cymorth arna i fel plentyn yn ystod fy addysg.“