Jack
Fe ddes i ar draws SNAP Cymru am y tro cyntaf pan oedd angen cymorth arna i fel plentyn yn ystod fy addysg. Fe wnaeth SNAP yn siŵr bod fy nheulu a finnau yn cael yr addasiadau roeddwn eu hangen i gwblhau fy nghymwysterau yn llwyddiannus.
Tuag at ddiwedd fy siwrnai addysgol, fe wnes i wirfoddoli gyda SNAP i ddysgu mwy am y system, cael profiad mewn amgylchedd swyddfa, ond hefyd i barhau i gefnogi’r gwaith gwych y mae SNAP Cymru yn ei wneud.
Rydw i bellach yn gwirfoddoli fel aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (Ymddiriedolwr) yn cynnig cymorth strategol i’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan SNAP ac sydd mor hanfodol i bobl ifanc yng Nghymru. Roeddwn i’n teimlo y gallwn gynnig rhywfaint o bersbectif fel rhywun sydd â phrofiad mewn sawl agwedd wahanol ar y system addysgol, gan gynnwys yr ysgol, Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio gyda Thîm SNAP, rydw i wedi dysgu llawer ynglŷn â sut mae’r system ADY yn gweithio yng Nghymru ac wedi datblygu nifer o sgiliau rwy’n eu defnyddio bob dydd yn fy swydd bresennol. Mae SNAP wedi fy helpu i fagu hyder, i ganfod fy mhrif gryfderau ac i adeiladu ar unrhyw wendidau mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.