Beth os ydw i’n anghytuno?
Weithiau mae’n bosibl y byddwch yn anghytuno â phobl eraill sy’n cefnogi anghenion eich plentyn, neu y byddwch yn anfodlon â rhywbeth maen nhw’n ei wneud neu’n ei ddweud. Gallech ambell waith fod yn anghytuno â phenderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud am anghenion eich plentyn a’r ffordd y cânt eu cefnogi.
Gallai hyn gynnwys pethau fel:
- ‘Rydw i’n credu bod gan fy mhlentyn ADY – mae’r ysgol yn anghytuno.’
- ‘Mae’r cymorth y mae’r ysgol yn ei roi yn annigonol, neu ‘nid dyma’r gefnogaeth iawn i anghenion dysgu ychwanegol fy mhlentyn.’
- ‘Nid yw’r ysgol yn deall anghenion fy mhlentyn.’
- ‘Nid wyf yn fodlon â CDU fy mhlentyn.’
- ‘Nid wyf yn cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol ynglŷn â pha ysgol y dylai fy mhlentyn fynd iddi.’
- ‘Nid wyf yn teimlo bod gan yr ysgol yr arian na’r arbenigedd i asesu a diwallu anghenion fy mhlentyn.’
- ‘Rwyf wedi cwyno fwy nag unwaith am benderfyniadau a wnaethpwyd gan fy ysgol ac rwy’n dal yn anfodlon.
- ‘Mae’r ysgol yn dal i ofyn i mi ddod i nôl fy mhlentyn ac erbyn hyn mae wedi cael ei wahardd nifer o weithiau.’
- ‘Nid yw fy mhlentyn yn cael yr help a nodwyd yn ei gynllun neu ddatganiad’.
- ‘Rwy’n teimlo bod fy mhlentyn yn cael ei wahaniaethu.’
Mae’r system ADY newydd a’r broses CDU yn cynnwys dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ystyried barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni neu berson ifanc, ac fe’i bwriadwyd er mwyn helpu i oresgyn y rhan fwyaf o anghytundebau.
Os oes gennych bryderon, neu os ydych yn anfodlon â phenderfyniad, mae’n bwysig bod problemau’n cael sylw’n gyflym. Dylech siarad â’ch ysgol neu goleg a cheisio datrys y rhain yn fuan.
Dylech:
- egluro’r broblem wrth yr athro/athrawes
- gofyn beth all ef/hi ei wneud i helpu a phryd
- gofyn pryd y gwnân nhw roi diweddariad i chi
- gofyn am gyfarfod
- gofyn am ailystyried y penderfyniadau a wnaed
Os byddwch yn anfon e-bost neu lythyr at yr athro/athrawes, cadwch gopi ohono. Os byddwch yn ffonio neu’n siarad wyneb yn wyneb, gwnewch nodyn o’r dyddiad a gwnewch nodiadau o’r hyn y mae’r ddau/ddwy ohonoch yn ei ddweud – ar y pryd neu’n syth ar ôl hynny. Gallai eich nodiadau helpu os bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r ysgol eto ynglŷn â’r broblem.
Cwynion
Mae gan bob ysgol a choleg weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni/gofalwyr a disgyblion. Y cam cyntaf yw dilyn trefn gwynion yr ysgol ei hun.
Gwasanaeth Datrys Anghydfod
Gall ein gwasanaethau datrys anghydfodau gael eu defnyddio gan rieni a gofalwyr plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Gwneud Apêl
Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Addysg os ydych yn anhapus ynglŷn â phenderfyniad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a wnaed gan Awdurdodau Lleol a Cholegau Addysg Bellach yng Nghymru.
Ailystyried penderfyniadau ADY
Mae’r gyfraith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yn darparu sawl hawl ar gyfer plant, eu rhieni a phobl ifanc i gael ailystyried rhai penderfyniadau a wneud gan yr ysgol.